Gairdin Celtaidd

Gairdin Celtaidd

Parc Glynliffon & Woodstock Gardens
Parc Glynliffon & Woodstock Gardens

Yn ôl yr hanes, dechreuodd bobl fyw yng Nglynllifon dros fil o flynyddoedd yn ôl a cheir y sôn cynharaf am y saithdeg erw o erddi gwyllt yn 1639. Mae Glynllifon yn un o dair gardd Graddfa I yng Ngwynedd. Oddi fewn i’r gerddi ceir amrywiaeth o goed a phlanhigion egsotig a fewnforiwyd dros gant a hanner o flynyddoedd yn ôl.

Dewch i Glynllifon i fwynhau taith hamddenol trwy’r gerddi, a chewch weld y byd mewn wythdeg o goed! Cewch gyfle i edmygu ein Pinwydden Fwncí a’r coed hynafol o Galiffornia a chasgliad arbennig o Fambŵ a rhododendron. Mae yma ddifyrrwch i bawb trwy gydol y flwyddyn.

A wyddoch Chwi?

Adnabyddir Glynllifon fel safle o ddiddordeb Gwyddonol arbenning oherwydd ei bwysigrwydd i fywyd gwyllt. Mae’n un o’r cynefinoedd mwyaf yn Ewrop i’r Ystlum Bedol Leiaf. Mae hefyd yn gartref i foch daear, dyfrgwn a nifer eang o adar.

Oriel, Gweithdai, Siop Grefft

Disgrifiwyd Glynllifon fel un o gyfrinachau mwyaf Cymru ond heddiw mae wedi cael ei adfer fel safle delfrydol i ddaranfod crefftwaith gorau Cymru. O fewn y ganolfan grefft ceir siop, oriel ag amrywiaeth o weithdai crefft a dylunio. Cewch gyfle i brynu neu gomisiynu darn o waith celf unigryw.

Cerfluniau a Ffoliau

Mae’r ffolïau’n dyddio’n ôl i’r ddeunawfed ganrif. Maent yn cynnwys y cwt Cychod, yr Ynys Siapaneaidd a Chapel y Cŵn. Mae Glynllifon yn gyfoes hefyd, gyda chyfres o gerfluniau yn y gerddi.

Tâl mynediad i’r Parc

£2 Oedolion; £1 Plant a rhai dros 65; £5 Teulu. Tocynnau tymor ar gael.

Parcio am ddim; parcio am ddim i fysus; toiledau; cyfleusterau i’r anabl gan gynwys llwybr tarmac trwy’r coetir. Croesewir cŵn ar dennyn. Chwe milltir i’r de-orllewin o Gaernarfon, a 14 milltir o Bwllheli, ar briffordd yr A499…trwy’r giatiau crand sydd yn wal hir! Edrychwch am yr arwyddion brown.

 

Privacy Policy | Contact Us | Credits | ©2004 Kilkenny County Council